Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mehefin 2013
Adroddiad ar yr amserlen ddiwygiedig ar gyfer ystyried y Bil
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
1. Ar 19 Mawrth 2013, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheolau Sefydlog 26.7 a 26.8, i ddiwygio'r dyddiad cau i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a chyflwyno adroddiad arno, i 5 Gorffennaf 2013, a hynny er mwyn ystyried materion heb eu trafod.
2. Ar 18 Mehefin 2013, cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymestyn y dyddiad cau i'r Pwyllgor gyflwyno adroddiad i 19 Gorffennaf 2013, yn unol â Rheol Sefydlog 26.8, er mwyn caniatau rhagor o amser i ystyried y dystiolaeth ar y Bil cymhleth hwn.
3.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i ddiwygio'r dyddiad cau ar
gyfer trafodion Cyfnod 2, i'w cwblhau erbyn 13 Rhagfyr 2013, yn
amodol ar egwyddorion cyffredinol y Bil yn cael eu cytuno gan y
Cynulliad.